P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF - Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Cadeirydd
Annwyl Gadeirydd,
Diolch am y cyfle i gynnig sylwadau ar ohebiaeth y
Gweinidog.
Rydym wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn rhoi
rhagor o arian i wasanaethau'r prosiect 'Cymraeg i Blant', sy'n
hybu defnydd y Gymraeg yn y teulu. Rydym yn falch bod y
Gweinidog wedi gwrando ac wedi penderfynu adfer y gwasanaethau
pwysig hyn.
Bu'r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i wella defnydd
o'r Gymraeg rhwng rhieni a phlant, a buodd destun pryder na fydd
unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd. Felly, mae
adfer y gwasanaethau hyn ledled y wlad yn newyddion calonogol gan
fod trosglwyddiad iaith o fewn y teulu yn faes allweddol er mwyn
sicrhau ein bod yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr
Cymraeg.
Fodd bynnag, rydym yn nodi bod y Llywodraeth, yn y bôn, ddim
ond wedi dadwneud y penderfyniad gwallus a wnaed y llynedd i
dorri'r gwasanaethau. Credwn felly fod y profiad hwn yn codi
cwestiynau ehangach ynghylch cynllunio ariannol strategol hirdymor
y Llywodraeth pan ddaw hi at normaleiddio a chynyddu defnydd y
Gymraeg.
Diolch eto am ystyriaeth y pwyllgor o'r ddeiseb.
Yr eiddoch yn gywir,
David Williams,
Llefarydd Blynyddoedd Cynnar, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg